National Academy for Educational Leadership Wales
Series 3
1:16:36
The National Academy for Educational Leadership Wales webinar series Leadership Unlocked is a professional learning programme exploring leadership in Wales and its educational context. Each webinar is guided by a notable guest speaker.
These webinar recordings are designed for leaders in senior leadership roles from schools, youth and further education colleges and aims to support them in their roles as system leaders. Recorded and delivered digitally via the Zoom online platform.
This episode features Michael Fullan. Michael is the former Dean of the Ontario Institute for Studies in Education, Professor Emeritus of the University of Toronto and is co-leader of the New Pedagogies for Deep Learning global initiative. Recognised as a worldwide authority on educational reform, he advises policymakers, local leaders, and school communities in helping to achieve the moral purpose of all children’s learning. Michael is also an award-winning author whose books have been published in many languages.
_______
Datgloi Arweinyddiaeth: Michael Fullan
Mae cyfres weminar Datgloi Arweinyddiaeth yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn rhaglen ddysgu broffesiynol sy’n archwilio arweinyddiaeth yng Nghymru a’i chyd-destun addysgol. Mae pob gweminar yn cael ei harwain gan siaradwr gwadd nodedig.
Mae’r recordiadau gweminar hyn wedi’u cynllunio ar gyfer arweinwyr mewn rolau arwain uwch gan ysgolion, y sector ieuenctid a cholegau addysg bellach a’u nod yw eu cefnogi yn eu rolau fel arweinwyr systemau. Wedi’i recordio a’i gyflwyno’n ddigidol drwy’r platfform Zoom.
Mae’r bennod hon yn cynnwys Michael Fullan. Cyn Deon Sefydliad Astudiaethau Addysg Ontario ac Athro Emeritws Prifysgol Toronto yw Michael Fullan. Hefyd, mae’n gyd-arweinydd menter fyd-eang New Pedagogies for Deep Learning. Mae’n awdurdod byd-eang ar ddiwygio addysg, mae’n cynghori llunwyr polisi, arweinwyr lleol a chymunedau ysgolion wrth helpu i gyflawni pwrpas moesol dysgu pob plentyn. Mae Michael hefyd yn awdur arobryn ac mae ei lyfrau wedi’u cyhoeddi mewn sawl iaith.